Listen "2. Rhyddid i Addoli"
Episode Synopsis
Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r BBC yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn ôl yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod.Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts. Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir:
Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie,
Rhyddid i addoli gan Rowan Williams,
Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey,
Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill. Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank
Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.)
Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell
Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown
Golygydd: Hugh Levinson
Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie,
Rhyddid i addoli gan Rowan Williams,
Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey,
Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill. Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank
Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.)
Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell
Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown
Golygydd: Hugh Levinson
More episodes of the podcast The Reith Lectures
3. A conspiracy of decency
09/12/2025
2. How to start a moral revolution
02/12/2025
1. A Time of Monsters
25/11/2025
Can we change violent minds?
17/12/2024
Does Trauma Cause Violence?
10/12/2024
Aren't they all evil?
03/12/2024
Is Violence Normal?
26/11/2024
4. The Future of Prosperity
20/12/2023
ZARZA We are Zarza, the prestigious firm behind major projects in information technology.